Er cof am Kelly
lingua originale: gallese
Cerdd benrydd Gymraeg gan Menna Elfyn yw Er cof am Kelly. Ysgrifennwyd y gerdd ym Melffast, ac mae'r gerdd ar gwrs Llenyddiaeth Gymraeg TGAU CBAC. Mae'r gerdd yn sôn am ferch o'r enw Kelly yn cael ei lladd ym Melffast gan filwr Prydeinig yn ystod yr Helyntion. Naw mlwydd oed oedd hi ac wedi bod yn nôl peint o laeth i gymydog pan gafodd ei saethu. Gwelodd ei mam y saethu. Ceisiodd y milwr helpu ond gwaeddodd cymydog arno. Yn y pennill olaf rydyn ni'n cael darlun trist o'i hangladd: ei gwisgo mewn ffrog benblwydd a rhoi losin a thedi gyda'r corff. Ei marwolaeth fydd ei noson hwyraf allan. Source: Wikipedia (cy)
Edizioni
No editions found
Opera - wd:Q13128288