Brut y Tywysogion

original language:  język walijskijęzyk angielski
main subject:  historia

Llawysgrif Gymraeg gynnar yw Peniarth 20, sy'n perthyn i'r casgliad a elwir yn Llawysgrifau Peniarth. Cynigiodd J. Gwenogvryn Evans ddyddiad o tua'r 15g iddi ond bellach mae Daniel Huws, y prif arbenigwr ar lawysgrifau Cymreig cynnar, wedi dadlau o blaid dyddiad tuag 1330 i brif haen y llawysgrif. Mae'n llawysgrif femrwn. Mae Peniarth 20 yn llawysgrif bwysig sy'n cynnwys y copi cynharaf a feddwn o destun Brut y Tywysogion a chopi cynnar o un o'r testunau a elwir yn Ramadegau'r Penceirddiaid, sy'n fath o lawlyfr i feirdd proffesiynol. Credir mai golygiad gan Dafydd Ddu o Hiraddug o destun gan Einion Offeiriad ydyw. Mae'n cynnwys yn ogystal testunau o waith rhai o'r Gogynfeirdd, yn cynnwys Iorwerth Fychan. Dengys astudiaeth o nodweddion llawysgrifol a thestunol fod Peniarth 20 yn perthyn yn agos i lawysgrif gynnar arall, sef Llyfr Du Basing. Credir iddi gael ei llunio naill ai yn Abaty Dinas Basing neu, yn fwy tebygol, yn scriptorium Abaty Aberconwy. Mae'r hynafiaethydd Robert Vaughan (c.1592-1667) o'r Hengwrt (ger Dolgellau), casglwr gwreiddiol Llawysgrifau Peniarth, yn cyfeirio at un ohonynt fel 'Llyfr Conwy', a chredir gan rai mai Peniarth 20 yw'r llawysgrif honno. Yn sicr ddigon gellir dweud ei bod yn llawysgrif a ysgrifennwyd yng ngogledd Cymru. Source: Wikipedia (cy)

Editions
3

In your inventory

nothing here

In your friends' and groups' inventories

nothing here

Nearby

nothing here

Elsewhere

nothing here
Comments
There is nothing here
Lists
There is nothing here

Work -

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
jesteś offline