Elin Meek

languages spoken, written or signed:  WelshBritish English
occupation:  writertranslatoradapter

Awdures ac addasydd llyfrau Cymreig ydy Dr Elin Meek. Er iddi ond ddechrau addasu llyfrau i'r Gymraeg yn swyddogol yn 2001, mae eisoes wedi cyhoeddi bron i 160 o lyfrau drwy weithio yn llawrydd.Magwyd Elin yng Nghaerfyrddin ac Ystalyfera, mae ei theulu o Geredigion. Mynychodd Ysgol y Dderwen a'r Ysgol Ramadeg i Ferched yng Nghaerfyrddin cyn mynd i astudio Almaeneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd. Mae'n byw yn Abertawe ar hyn o bryd ac yn gweithio fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Caiff ei chomisiynu i addasu llyfrau fel rheol gan gyhoeddwyr megis Gwasg Gomer, Y Lolfa a Dref Wen. Mae ei chyfieithiadau mwyaf nodweddiadol yn cynnwys rhai o lyfrau Roald Dahl ar gyfer Rily Publications. Source: Wikipedia (cy)

Human - wd:Q18535607

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline