Aneirin Karadog
Bibliographic databases:
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd o Gymru yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982) yn Ysbyty H.M Stanley, Llanelwy. Fe'i magwyd yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn y 1980au ac yna i Bontypridd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontardawe a Pont-Siôn-Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl. Mae'n byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth Fawr gyda'i wraig Laura a'i blant, Sisial ac Erwan. Yn Haf 2018 symudodd y teulu i Lydaw gyda'r bwriad o drochi eu plant yn yr iaith Lydaweg, lle roeddent yn byw yn Kerlouan, sef pentref genedigol mam Aneirin. Roedd yn darlithio yn Université de Bretagne Occidentale yn ystod ei gyfnod yn Llydaw. Source: Wikipedia (cy)
Lists
There is nothing here
Human -
Comments
There is nothing here