Bleddyn Owen Huws

languages spoken, written or signed:  WelshEnglish
occupation:  docenterudite personwriter

Ysgolhaig a hanesydd llenyddiaeth Gymraeg yw Bleddyn Owen Huws. Mae'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe'i etholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar 23 Mai 2018.Ar y cyd ag A. Cynfael Lake yn 1995, sefydlodd y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac mae'r ddau yn parhau'n gyd-olygyddion arno. Mae'n ddarlithydd sy'n cyfrannu'n rheolaidd i gymdeithasau diwylliannol a llenyddol ledled Cymru. Ei brif faes ymchwil yw cyfnod y Cywyddwyr a'r Dadeni. Cyhoeddodd yn helaeth hefyd ar rai o lenorion Eryri yn yr 20g, megis y llyfryn Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927), Carneddog a gyhoeddwyd 30 Tachwedd, 1999 gan Gyhoeddiadau Barddas, ac am y gyfrol Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch a gyhoeddwyd eto gan Gyhoeddiadau Barddas yn 1988. Mae'n fab i O. P. Huws, un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd. Source: Wikipedia (cy)

Series

There is nothing here

Create a new serie

Articles

There is nothing here

Human - wd:Q20560688

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline