Teulu Bach Nantoer

first publication date:  1913
original language:  Welsh

Nofel i blant gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) yw Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab ym 1913.Cyhoeddwyd 30,000 copi o'r llyfr yn wreiddiol ac ailgyhoeddwyd yn 2013 fel llyfr papur ac elyfr. Drwy'r llyfr hwn, down i ddeall am feddylfryd Cymry ddechrau C20: eu gobeithion a'u pryderonam eu hiaith, eu cymuned a'u diwylliant. Er mai teulu tlawd yw Teulu Nantoer, mae'n codi o'r tlodi hwnnw drwy ddisgyblaeth, addysg a theyrngarwch i deulu, cymuned a gwlad. Drwy hyn, trawsnewidir y teulu, sydd, o bosib, yn symbol ehangach o Gymru gyfan. Mae'r nofel, felly, yn ymweneud â meddylfryd Cymry troad yr 20g. Yn ôl y beirniad llenyddol Siwan M. Rosser, mae'n ddarlun rhamantaidd, ar y cyfan, ond yn ail hanner C20 collodd y nofel ei hapel a thyfodd darlun rhamantaidd Moelona o fywyd teuluol yn fwyfwy amherthnasol a sentimental. Yn ôl y wefan Gwales (y Cyngor Llyfrau), mae'n nofel ddirdynnol sy'n... rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio'r modd y mae Moelona yn cyfathrebu a'i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau'r ugeinfed ganrif. Source: Wikipedia (cy)

Editions
No editions found

Work - wd:Q20567054

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline