Plasau'r Brenin

original language:  Welsh

Nofel led-hunangofiannol am brofiad carcharor cydwybodol gan y llenor David James Jones (Gwenallt) yw Plasau'r Brenin (cyhoeddwyd 1934). Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn y Rhyfel Byd Cyntaf, carcharwyd Gwenallt yn Wormwood Scrubs a Dartmoor o 1917 hyd 1919 ac ysgrifennodd Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw. Mae'n nofel hunangofiannol felly, gyda'r prif gymeriad 'Myrddin Tomos' yn cynrychioli Gwenallt ei hun. Ond yn hytrach na chanolbwyntio ar fywyd y carchar ei hun, er bod hynny'n fframwaith y nofel, mae'r awdur yn ymroi i ddisgrifio ei fro enedigol yn Sir Gaerfyrddin a'r gymdeithas Gymraeg ddiwylliedig fel y bu cyn y Rhyfel Mawr. Mae'n portreadu hefyd ddatblygiad syniadau gwleidyddol Gwenallt. Yn ôl Gwenallt, ffrwyth llw rhyngddo a'r llenor T. Hughes Jones i ysgrifennu nofel yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd y prinder mewn llyfrau Cymraeg ar y pwnc, yw'r nofel. Cyhoeddodd T. Hughes Jones ei nofel yntau Amser i Ryfel wedi'i seilio ar ei brofiad fel milwr. Dywedodd Gwenallt mai darllen cyfieithiad Saesneg o nofel fawr Dostoievsky, The House of the Dead, a fu ei ysbrydoliaeth lenyddol bennaf. Source: Wikipedia (cy)

Editions
No editions found

Work - wd:Q20591283

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline