Ciwcymbars Wolverhampton

original language:  Welsh

Cerdd gan Ifor ap Glyn sy'n sôn am yr hanes tu ôl i giwcymbyrs o Wolverhampton ydy Ciwcymbars Wolverhampton. Yn y gerdd mae yna neges ddiddorol sef os ydych wedi'ch geni yn Lloegr ond eich bod yn byw yng Nghymru, rydych chi dal yn Gymro. Mae'r bardd yn dweud fod y ciwcymbyr o Wolverhampton yn fwy Cymreig na'r Cymry oherwydd ei fod yn cynnwys 90% o ddŵr sy'n tarddu yng Nghymru o'i gymharu â chorff person o Gymru sy'n cynnwys 70% o ddŵr. Ymddangosodd y gerdd yn y gyfrol Cerddi Map yr Underground, cafodd Ifor ei eni a'i fagu yn Llundain. Mae'r gerdd yn crisialu’r olwg wahanol ar yr hyn yw bod yn Gymro mewn canrif newydd. I raddau, mae mwyafrif helaeth y cerddi yn y gyfrol hon yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn yw bod yn Gymro Cymraeg mewn byd rhyngwladol a rhyng-ddiwylliannol. Mae ei fagwraeth mewn dinas gosmopolitan fel Llundain yn rhoi'r hyder iddo fentro i ganol cymhlethdodau ein cyfnod yn drwyadl Gymraeg. Mae'r gerdd yn ymddangos yn y gyfrol Hoff Gerddi Digri Cymru. Source: Wikipedia (cy)

Editions
No editions found

Work - wd:Q20592701

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline