Emyr Edwards

1931 - 2021
Languages spoken, written or signed:  WelshEnglish
Occupation:  playwrightpoetteacherwriter

Dramodydd, llenor a bardd oedd Emyr Edwards (4 Gorffennaf 1931 – 5 Gorffennaf 2021). Roedd yn fab i'r Prifardd J. M. Edwards. Treuliodd ei yrfa fel pennaeth yr Adran Ddrama yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn Y Barri ac yna ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd. Bu'n gynhyrchydd am bedair blynedd yn nyddiau cynnar datblygiad S4C. Am gyfnod bu'n ddarlithydd ar gwrs Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn sylfaenydd Cwmni Theatr yr Urdd, roedd yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi sawl llyfr ar theori'r actor, ynghyd â chyfansoddi dramâu a dramâu cerdd. Bu'n brif arholwr arholiad Drama Safon Uwch i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru am 25 mlynedd, cyn ymddiswyddo yn 2003 yn sgîl ymchwiliad i ymddygiad John A Owen yn Ysgol Rhydfelen. Tra'n ddramodydd ifanc, sylwodd Emyr Edwards bod diffyg cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ymddiddori mewn actio trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna sut y daeth y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Fe aeth y cwmni ymlaen i sbarduno gyrfaoedd nifer o actorion a dramodwyr eraill fel Siân James, Stifyn Parri a Cefin Roberts. Yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau canllaw ar gyfer actorion a chynhyrchwyr, fe gyhoeddodd Emyr gyfresi o ddramâu byrion, gan gynnwys Y Fodrwy a Dramâu Byrion Eraill. Bu hefyd yn gyfrifol am drosi dramâu i'r Gymraeg fel dwy o ddramâu Tennessee Williams Cab Chwant, ei drosiad o A Streetcar Named Desire a Pethe Brau, ei addasiad o The Glass Menagerie. Enillodd gystadleuaeth y ddrama fer dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth sef Guernika a Cherddi Eraill ac yn addas iawn - Cerddi'r Theatr. Enillodd ei dad, J.M. Edwards, Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn 1937, 1941 ac 1944. Bu farw ym mis Gorffennaf 2021 yn 90 oed, ychydig fisoedd ar ôl ei wraig, Cath, wedi salwch hir. Mae'n gadael un mab, Seth. Source: Wikipedia (cy)

Comments

There is nothing here

Lists

There is nothing here

Human -

Welcome to inventaire

The library of your friends and communities
Learn more
You are offline