Mari Emlyn

1964 -
country of citizenship:  United KingdomWales
languages spoken, written or signed:  WelshEnglish
educated at:  Rose Bruford College
occupation:  screenwriterwriteractor

Awdur ac actores yw Mari Emlyn (ganwyd Chwefror 1964). Ganwyd a magwyd Emlyn yng Nghaerdydd yn ferch i Shân Emlyn Jones ac Owen Edwards. Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Ei chyhoeddiad diweddaraf fel awdur yw Cofiwch Dryweryn - Cymru'n Deffro / Wales Awakening (Hydref 2019), sef cyfrol a ganolbwyntia ar ffenomenon murluniau diweddaraf Cofiwch Dryweryn sydd wedi ymddangos ar hyd a lled Cymru mewn ymateb i'r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol. Ynghyd â lluniau o'r murluniau, mae'r rhai fu'n eu peintio yn egluro pam eu bod wedi gweithredu yn y fath fodd a cheir cyfraniadau gan rai fu'n llygad dystion i foddi Capel Celyn.Yn 2020 cyhoeddodd nofe, Mefus yn y Glaw (Gwasg y Bwthyn), lle mae'r prif gymeriad, Lili, yn mynd drwy'r menopôs. Disgrifir fel "nofel hwyliog a sensitif am gyfeillgarwch a sefyllfa merched hŷn. Rydym yn dilyn diwrnod ym mywyd Lili Daniels, awdures 50 oed, sy'n cael trafferth darganfod ei hawen a hithau'n ceisio ysgrifennu ei phumed nofel." Source: Wikipedia (cy)

Series

There is nothing here

Create a new serie

Articles

There is nothing here

Human - wd:Q47126099

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline