Sioned Davies
Ysgolhaig yw'r Athro Sioned Davies (ganed 1954) a chyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Mae'n arbenigwr mewn llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, a'r Mabinogi yn enwedig. Fe'i magwyd yn Llanbrynmair a'r Trallwng yn Sir Drefaldwyn, yn ferch i Elwyn Davies, prifathro ysgol, a Nest Pierce Roberts. Mae'n nith i'r ysgolhaig Enid Pierce Roberts, ac mae ganddi chwaer, Gwerfyl, a brawd, Huw. Bu'n bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd am dros ugain mlynedd, cyn ymddeol o'r swydd yn 2017. Mae'n athro emerita yn y Brifysgol ar hyn o bryd.Yn 2012, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp annibynnol o dan ei chadeiryddiaeth i gynghori ar sut i wella darpariaeth Cymraeg ail iaith mewn ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad y grŵp yn 2013; roedd yn galw am gael gwared ar y cysyniad o Gymraeg ail iaith a sicrhau un continwwm o ddysgu'r Gymraeg ym mhob ysgol; enw'r adroddiad oedd Un Iaith i Bawb. Cafodd "Adroddiad Sioned Davies" ddylanwad sylweddol ar bolisi'r Llywodraeth ar ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion. Source: Wikipedia (cy)
Editions translated by Sioned Davies 1
Human - wd:Q47126140