John Gruffydd Jones
Llenor a chemegydd o Gymro oedd John Gruffydd Jones (1932 – 11 Mawrth 2023). Roedd yn wreiddiol o Nanhoron ym Mhen Llŷn, a bu'n byw ym Manceinion am 17 mlynedd cyn ymgartrefu yn Abergele gyda'i wraig Eirlys yn 1967. Roedd ysgrifennu yn ddiléit ganddo, a bu'n awdur prysur.O ganol yr 1970au enillodd Jones rai o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mor ddiweddar â 2018 fe enillodd wobr lenyddol yn y Brifwyl, ond cyn hynny, enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1981, Y Fedal Ddrama yn 1986 a'r Goron yn 1987. Wedi ymddeol bu'n olygydd ar Y Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng mlynedd rhwng 2000 a 2010. Aeth ati hefyd i ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol dan gyfarwyddyd Yr Athro Angharad Price yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012. Bu farw yn 90 oed ar ôl gwaeledd byr. Mae'n gadael merch a mab, Delyth Marian a Dafydd Llewelyn, yn ogystal â thair o wyresau. Source: Wikipedia (cy)
Human - wd:Q47126343