Straeon y pentan

first publication date:  1895
original title:  Straeon y pentan
original language:  Welsh
main subject:  short story

Cyfrol o straeon byrion gan Daniel Owen yw Straeon y Pentan. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn 1895, ychydig fisoedd cyn marwolaeth yr awdur. Roedd 9 o'r 19 stori wedi ymddangos yn fisol yn Cymru'r Plant rhwng Gorffennaf 1894 ac Ebrill 1895. Yn ei ragair "At y Darllenydd" mae Daniel Owen yn pwysleisio mai straeon gwir yw'r rhain, a'i fod yn defnyddio'r cymeriad "F'ewyrth Edward" i'w hadrodd "er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb". Mae'n sicr i Daniel Owen ddefnyddio straeon a glywsai ar lafar gwlad yn yr Wyddgrug a'r ardaloedd cyfagos, ac yn wir iddo fynychu tafarnau'r Wyddgrug i chwilio amdanynt. Mewn sgwrs gyda T. Ceiriog Williams cofiai un o drigolion Maes-y-dre sôn am hyn, "Old Daniel's been yonder again after his tales."Cynnwys: Source: Wikipedia (cy)

Editions
No editions found

Work - wd:Q61108029

Welcome to Inventaire

the library of your friends and communities
learn more
you are offline